Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os yw gwladolion o'r Undeb Ewropeaidd eisiau aros yn y Deyrnas Unedig ar ôl 30 Mehefin 2021, bydd angen iddyn nhw a'u teuluoedd agos wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Llywodraeth y DU. Mae’r cynllun wedi’i bod ar agor ers mis Mawrth 2019. Gall dinasyddion yr UE a'u teuluoedd sydd wedi bod yn preswylio'n barhaus yn y DU am bum mlynedd tan wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Byddant yn parhau i allu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr. Bydd y rhai nad ydynt wedi bod yn preswylio'n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws preswylydd cyn-sefydlog. Byddant hefyd yn gallu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr.
Mae gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael yma: https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families.
Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru a all gynnig cyngor a chymorth am ddim i unrhyw ddinesydd o'r UE sy'n byw yng Nghymru ac sy'n pryderu am ymgeisio. Mae'r gwasanaethau isod yn cael eu darparu gan nifer o sefydliadau yng Nghymru a byddant yn gallu cynnig cyngor a chymorth am ddim yn ôl eich anghenion penodol.
- Cyngor ar Bopeth Cymru Mae Cyngor ar Bopeth Cymru'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, canllawiau a chyngor i helpu cleientiaid gyda cheisiadau statws preswylydd sefydlog syml. Gall hefyd roi cyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle. Caiff atgyfeiriadau at wasanaethau eraill eu hawgrymu lle y byddai cleientiaid yn elwa ar gymorth pellach mewn materion cymhleth. Rhagor o fanylion
- TGP Cymru / Teithio Ymlaen: Cyngor a chymorth i ddinasyddion Roma Ewropeaidd i wneud cais i aros yng Nghymru pan fydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rhagor o fanylion
- Settled: Mae Settled yn elusen newydd sy'n ceisio rhoi arweiniad, gwybodaeth a chymorth i ddinasyddion yr UE sy'n agored i niwed ac yn anodd eu cyrraedd er mwyn eu helpu i gadw'r hawl i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig pan fydd yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae gwefan Settled yn cynnig cymorth a chanllawiau rhyngweithiol, ac yn atgyfeirio dinasyddion yr UE at wybodaeth bwrpasol. Rhagor o fanylion
- Newfields Law: Wedi'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, mae Newfields Law yn gwmni cyfreithiol yng Nghymru sy'n arbenigo mewn mewnfudo. Mae ganddo gynghorwyr cymwys i helpu â phob agwedd ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac unrhyw faterion cymhleth neu gyfreithiol eraill sy'n gysylltiedig â mewnfudo. Rhagor o fanylion
- Cymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar: Mae'r sefydliad hwn yn gweithio gyda phobl fyddar, yn arbennig y rhai byddar ers eu geni neu o oedran ifanc sy'n defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu. Mae tudalen ar y we a gwasanaeth apwyntiadau ar gael nawr i ddinasyddion byddar o'r Undeb Ewropeaidd/Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir a'u teuluoedd i geisio cymorth i wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Rhagor o fanylion
- Hawliau Menywod: Llinell gyngor dros y ffôn sy'n darparu cyngor cyfreithiol a chymorth i fenywod sy'n agored i niwed oherwydd trais yn erbyn menywod a merched i'w galluogi i wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Rhagor o fanylion